Mae gyd-ddigwy ddiad cyfleus bod y rhifyn yma o’r ‘Cymro’ yn dod allan ar 16 Medi sef, ‘Dydd Glyndŵr’, dydd i’w ddathlu ac i chwifio baner Owain Glyndŵr ar adeiladau Dinesig yn ogystal â gan fusnesau ac unigolion ar hyd a lled y wlad. Yn bendant, mae’r ymarferiad yma wedi cydio ac ar gynnydd ers i Lysgenhadaeth Glyndŵr berswadio cyfanwerthwyr i ddarparu baneri Glyndŵr a fyddai’n ddigon rhad ar gyfer poced pawb yn y flwyddyn 2000, ac wrth gwrs, rydym yn manteisio ar bob cyfle i atgoffa pobl i’w chwifio. Yn ogystal, mewn menter ar y cyd â Siop Crefftau’r Castell, Caerdydd bu i Lysgenhadaeth Glyndŵr anrhegu un enfawr wedi ei brodio i’r Cynulliad Cymreig yn 2001 wedi iddyn nhw basio i’w chwifio uwchben y Cynulliad ar Ddydd Glyndŵr yn flynyddol (er, dylent fod yn ddigon hyderus i’w chwifio drwy’r flwyddyn erbyn hyn!) ac anrhegwyd un tebyg i’r Eisteddfod Genedlaethol sydd hefyd yn ei chwifio uwchben y pafiliwn drwy gydol wythnos yr Eisteddfod yn flynyddol. Bu i’r Llysgenhadaeth, yn ogystal, anrhegu rhai cryf i Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam a Chyngor Castell Nedd a gwn bod y brifysgol ym Mangor a’r Llyfrgell Genedlaethol yn ei chwifio’n flynyddol yn ogystal â nifer cynyddol o gestyll sydd dan ofal ‘Cadw’ a bod trefi megis, Pwllheli, Penrhyndeudraeth, Machynlleth yn fôr o’r baneri drwy gydol yr haf - os nad drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r Llysgenhadaeth newydd gyflenwi tref Corwen ac ugain ohonynt.
Heb os, mae chwifio baner Glyndŵr yn her ac yn ddatganiad pendant bod Pobl Glyndŵr “yma o hyd” ac mae chwifio’r faner yn gyfrwng sy’n atgoffa pawb o’r ffaith bod cynulliad o Gymry dewr wedi ymgasglu yng Nglyndyfrdwy ar Fedi 16 1400, ac wedi ymrwymo eu hunain i’r ymgyrch i adfer ‘Sofraniaeth Cenedlaethol’ a rhyddid i’r Cymry mewn cenedl annibynnol.
Mae’n holl bwysig ar yr adeg yma yn ein hanes, yn nhyb Llysgenhadaeth Glyndŵr, i atgoffa pobl Cymru am y brwydro dewr a’r aberth a gymrodd le yn ystod ymgyrch hir Owain Glyndŵr i ennill Annibyniaeth ac i adfer Sofraniaeth y Cymry, am fod y Blaid, sydd yn honni i fod yn ‘Blaid Cenedlaethol’, wedi dewis, unwaith eto, yn eu cynhadledd flynyddol eleni i anwybyddu’r aberth hynny a wnaed gan Gymry oes Glyndŵr yn ogystal â’u dyheadau am Gymru rydd.
Mae ‘Plaid’ wedi penderfynu eu bod am ymgyrchu am Annibyniaeth o fewn i Ewrop. H.y. Mae ‘Plaid’ am ymgyrchu i ni ffeirio o fod yn drefedigaeth o Loegr i fod yn drefedigaeth o Ewrop yn hytrach na dilyn esiampl yr Alban i fynnu Annibyniaeth lawn a dim llai!
Wedi’r cwbl, fe ddylai ‘Plaid’ fod wedi dysgu gwers neu ddwy o’r hyn sydd wedi digwydd i genhedloedd eraill fel Iwerddon, Groeg, Sbaen a Phortiwgal sydd eisoes yn rhanbarthau o Ymerodraeth Ewrop. Do, cawsant filiynau mewn nawdd o Ewrop i ddatblygu. Cafodd y miliynau yna ei lyncu ar brosiectau aneffeithiol a roddwyd gerbron gan ddatblygwyr cyfalafol. Ysbeiliwyd y gweddill o’r arian gan fanciau ysglyfaethus a rŵan, wrth i’r hwch fynd drwy’r siop, mae’n rhaid i’r gwledydd a nodwyd gwerthu eu hasedau i dalu’r buddsoddiad yn ôl i Ewrop!
Pwy yng Nghymru felly byddai’n elwa o Gymru ‘Annibynnol’ o fewn i Ymerodraeth Ewrop? Os edrychir ar yr esiamplau uchod, dim y di-breintiedig, y di-waith a’r claf yn bendant ond y cyfalafwyr Cymreig barus a diystyriol hynny sy’n fwy na pharod i gydweithio a chyfalafwyr mawr fyd eang i ysbeilio asedau ac adnoddau Cymru ac i lenwi’r genedl a phrosiectau ‘da i ddim’ fel melinau gwynt aneffeithiol! Byddai gan Gymru ddim gobaith mul o oroesi’n un darn fel ‘treftadaeth ranbarthol israddol’ o’r math ond, wrth gwrs, byddai ddim ots am hynny gan y cyfalafwyr cyn belled a’u bod nhw wedi llenwi eu coffrau eu hunain. Da iawn Plaid!
Ymddengys fod yna etholiad ar y gorwel i ddewis olynydd i Ieuan Wyn Jones fel Llywydd ar ‘Plaid’ ac ymddengys fod Dafydd Elis Thomas eisoes wedi bod yn ddigon hy i luchio ei enw i’r het. Duw a gwaredo Cymru os caiff yr ‘Arglwydd Amddiffynnydd’ yma ei ddewis fel yr arweinydd nesaf ar ‘Plaid’ Er iddo dderbyn baner Glyndŵr ar ran y Cynulliad yn 2001, mae’n casáu Owain Glyndŵr a’r gair ‘Annibyniaeth’ a’r un casineb ond mae’n ffrind mynwesol i’r frenhiniaeth Seisnig ac i’r cyfalafwyr melinau gwynt sydd a’u bryd ar ddinistrio ein treftadaeth tirluniol. Does dim cadarnhad pendant pwy fydd yr ymgeiswyr eraill i gyd eto ond hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i erfyn ar yr aelodau hynny o ‘Plaid’ sy’n credu bod Cymru’n haeddu’r un ‘Annibyniaeth’ ac mae’r Alban am ei gael, i gefnogi’r ymgeisydd sydd yn mynd i wireddu breuddwyd Owain Glyndŵr a’i gyd Gymry.
Yn gynharach ym mis Awst, sgwennais erthygl ar gyfer ‘Y Cymro’ lle bu i fi ddatgan y byddai ‘Plaid’ yn haeddu’r enw ‘Plaid Cywilydd’ os nad oedd yn barod i warchod Cymru rhag cael ei rheibio gan Meistri’r melinau gwynt ac os nad oedd hi’n barod i warchod Stad Efyrnwy rhag cael ei werthu i gwmnïau cyfalafol estron United Utilities a FIM. Dim son bod ‘Plaid’ yn mynd i godi bys bach i wneud dim hyd yma - ond tydi ddim yn rhy hwyr! Mae Llysgenhadaeth Glyndŵr yn gosod y sialens i ‘Plaid’ ddangos arweiniad a gwneud safiad drwy gynnal Rali Cenedlaethol i gefnogi Pobl Llanwddyn yn Llanwddyn ar y 24ain o Fedi sef, dyddiad Brwydr Fyrnwy 1400.
Dylai ‘Plaid’ ddim ystyried eu hunain yn “rhy broffesiynol” i wneud safiad o’r fath ar ran Pobl Cymru. Wedi’r cwbl, Plaid Cymru, dan arweinyddiaeth Gwynfor Evans, oedd yn arwain yr ymgyrch i geisio ag arbed Capel Celyn rhag cael ei foddi yn y chwedegau a dylent wynebu’r gwirionedd mai ymgyrchoedd fel un Tryweryn a’r ymgyrch yn erbyn yr Arwisgo yn 1969 oedd y catalydd a oedd yn gyfrifol dros i Plaid Cymru ennill tir yn sylweddol yn y 1960au. Ond, os nad yw ‘Plaid’, erbyn hyn, yn ddigon hyderus i ddangos arweiniad a gwneud safiad mewn achosion fel gwerthiant Efyrnwy a ‘thwyll’ mawr y melinau gwynt, gall ‘wir’ Pobl Glyndŵr, o bosib, ddim aros yn aelod ohoni? A hwyrach iddi fod yn hen bryd i’r Pobl Glyndŵr hynny adael i sefydlu Plaid newydd a fydd yn wirioneddol barod i warchod adnoddau ac asedau Cymru ac un a fydd yn barod i reoli a defnyddio’r adnoddau ac asedau hynny i wellhau gwasanaethau cymdeithasol a chymunedol a safon byw pob un o ddinasyddion Cymru. Hwyrach bod yr amser wedi cyrraedd i ‘Blaid Glyndŵr’ gael ei eni?
Siân Ifan
Prif Weithredwr Llysgenhadaeth Glyndŵr