Sunday 3 July 2011

Taflu LLwch i Lygaid y Cymry. Cwmniau Melinau Gwynt yn llwgrwobrwyo.

Copi o lythyr a gyhoeddwyd yn rhifyn yr wythnos a fu o'r Cymro. Mae cyfeithiad Saesneg ar y blog Tarian Glyndŵr. Dyma'r ddolen gyswllt:  http://tarianglyndwr.blogspot.com/

Annwyl Olygydd,


Mae’r gwirionedd bellach yn gwawrio ar wledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd fod dibyniaeth ar ynni gwynt fel ymateb i anghenion ynni’r dyfodol yr un mor wirion a di-nod a cheisio a llenwi bwced a thwll anferth yn ei waelod. Mae’r iseldiroedd eisoes wedi cefnu ar eu strategaeth i ddatblygu ffermydd gwynt ac mae Ffrainc, ar hyn o bryd y edrych i’r un cyfeiriad - gydag UNESCO yn gwylio a llygaid barcud oherwydd eu bod yn pryderu am safleoedd treftadol a hanesyddol Ffrainc. Ond lle mae ein cenedl fach ni yn y cwestiwn, mae San Steffan wedi datgan eu hawl i osod ffermydd ar bob un acer o dir Cymru os ydynt am wneud hynny, ta waeth beth yw nodweddion hanesyddol, diwylliannol neu amgylcheddol y darn o dir hynny ac oherwydd, cawn flynyddoedd o’n blaenaf o orfod dioddef cannoedd os nad miloedd o’r angenfilod enfawr yma yn llenwi ffyrdd ein trefi a phentrefi wrth iddyn nhw gael eu cludo i mewn ac ar hyd a lled Cymru cyn cael eu trywanu i mewn i’r ddaear yn eu cartrefi newydd. Bydd dim diweddglo i’r hunllef yna nes bod pob rhan o dir agored wedi ei rhwygo i fynnu ac wedi ei lenwi a’r angenfilod enfawr, ac yna, disgwylir i ni fyw yn eu mysg - a phwy yn eu llawn synnwyr fyddai am wneud hynny - heb son am ddod ar ymweliad i weld ein mamwlad a oedd, cyn y rheibio diweddaraf yma, yn hyfryd o hyd er gwaethaf rheibiau’r gorffennol.

Os caniateir â’r strategaeth ‘hurt’ yma yng Nghymru, mewn amser, fydd yna ddim cymunedau Cymreig bywiog ar ôl; pwy fydda am fyw ynddyn nhw? Fydd yna ddim sŵn plant yn chwarae ac yn chwerthin yn iardiau’r ysgolion gwag a dim adar (ar wahân i rai heb bennau!) yn canu a fawr o fywyd gwyllt. Y cyfan fydd gan ‘Croeso Cymru’ i gynnig fel atyniadau ar eu taflenni hyrwyddo fydd cestyll, cronfeydd dŵr, cannoedd o felinau gwynt a pheilonau di-ri.

Ydi, mae’r darlun ar gyfer y dyfodol yn un brawychus a thrist - ac yn un y gellid ei hosgoi o hyd petai’r Cynulliad ym Mae Caerdydd a ddigon o asgwrn cefn i ddweud NA!...DIGON YW DIGON - yn arbennig o ystyried fod hyd yn oed San Steffan erbyn hyn yn gorfod cydnabod y ffaith fod ynni gwynt yn hollol anrhagweladwy ac felly’n aneffeithiol gyda’r cymorthdaliadau sy’n cael eu talu i’r datblygwyr yn werth llawer mwy na’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu - ac, fel petai hynny ddim yn ddigon, y diweddaraf yw bod San Steffan wrthi’n ystyried cyngor eu hadran Ynni eu hunain bod rhaid gwario £60biliwn i adeiladu dwy ar bymtheg o orsafoedd pŵer fydd yn rhedeg ar nwy! Bwriedir i’r gorsafoedd ynni yma fod yn segur rhan fwyaf o’r amser ond i fod yno yn gefn i’r melinau gwynt pan nad yw'r rheini yn troi ac/neu ddim yn cynhyrchu’r trydan sydd ei angen! Pa fath o wallgofrwydd yw hynna? Ni’r trethdalwyr fydd, wrth gwrs, yn gorfod talu am y gorsafoedd ynni newydd yma er inni fod yn talu’n barod am y melinau gwynt mewn taliad cuddiedig ar ein biliau ynni.

Y peth mwyaf trist am hyn i gyd parthed Cymru yw bod Cymro, cyn aelod gweithgar o Gymdeithas yr Iaith, wedi dod i’r amlwg fel ‘Datblygwr’ sy’n chwarae rôl flaengar iawn yn yr erchylltra diweddaraf yma i ddinistrio ein mamwlad. Eryl Vughan (Fychan gynt) yw’r wyneb Cymraeg i ddatblygu’r ffermydd gwynt aflan ‘ma’ ar hyd a lled Cymru ac, heb amheuaeth, mae ef yn gwybod yn iawn pa mor aneffeithiol ydynt o ddifrif a pa effaith maent yn mynd i gael ar Gymru’r dyfodol ond mae’r elw enfawr sydd i’w wneud o werthiant y melinau gwynt yn y lle cyntaf ac yna o’r cymorthdaliadau llifogus yn fwy na digon i leddfu cydwybod Eryl mae’n amlwg! Ond, fel petai’r fradwriaeth amlwg o reibio ei famwlad â’r ffermydd gwynt ‘ma’ ddim yn ddigon trist, mae Eryl, yn ogystal, wrthi’n brysur yn twyllo ac yn llwgrwobrwyo sefydliadau Cymraeg fel yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Urdd a’r Mudiad Ysgolion Meithrin i dderbyn brathiad o’i afal gwenwynig mewn ffurf nawdd er mwyn ennill cefnogaeth y Cymry Cymraeg ledled Cymru ar gyfer yr adegau hynny pryd fydd rhaid i’w gwmni, ‘Ynni Gwynt Cymru’, cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer y melinau gwynt di-ri mae ef am drywanu i mewn i ddaear ei famwlad.

Mae’n hynod o eironig a thrist fod sefydliadau sy’n bodoli i warchod Cymru, ei diwylliant a’i hiaith eisoes wedi eu twyllo a’u llwgrwobrwyo i dderbyn brathiad o’r afal gwenwynig sy’n cael ei gynnig iddynt gan Eryl Vaughan, ac oherwydd, byddant, mewn amser, yn cyfrannu tuag at ddinistr yr elfennau o Gymreictod maent ers degawdau wedi gwarchod. Dewch i ni obeithio na fydd yna fwy o sefydliadau a mudiadau Cymreig yn cael eu twyllo yn yr un modd ac na welir y sefydliadau a enwyd yn cnoi ar yr afal fyth eto yn y dyfodol .

Siân Ifan