Monday 4 June 2012

Meddiannu Mynydd y Betws 8 - 10 Mehefin.


BRWYDRAU CYMRYD Y TIR YN ÔL!

Gweler yn y ddolen gyswllt: http://www.youtube.com/watch?v=NUHuVWUAz7Q&feature=youtu.be

 Gan fod ein cenedl yn prysur gael ei rheibio unwaith eto, y tro yma gan Feistri Melinau Gwynt cyfalafol ysglyfaethus, mae’r blog ‘Cymru’n Codi’, fel rhan o’r ymgyrch ‘Cymryd Ein Tir Yn Ôl’, wrthi’n hyrwyddo gweithgaredd o’r enw ‘Gorymdeithio i’r Mynyddoedd’ sydd i gymryd lle yn ystod wythnos gyntaf (1 - 7) mis Mehefin eleni. Anogir unigolion a theuluoedd mewn cymunedau drwy Gymru benbaladr i gerdded a gwersylla yn y mynyddoedd ar diroedd sydd wedi eu meddiannu gan Coron Lloegr, a barwniaid rheibus eraill, yn ogystal ag ar diroedd a adnabyddir fel Tiroedd Comin. Pam? Oherwydd bwriedir gosod cannoedd o’r melinau gwynt mwyaf a dianghenraid a’r tiroedd o’r math yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, a  bwriedir i’r gweithgareddau a anogir fel ‘gweithgareddau cymunedol ar gyfer wythnos gyntaf mis Mehefin fod yn lansiad ar gyfer ‘Ymgyrch Cenedlaethol’ i ‘Gymryd y Tir yn ôl’.

 Dilynir y gweithgareddau cymunedol yma gydag achlysur cenedlaethol sef “Meddiannu’r Mynyddoedd” a fydd yn cymryd lle ar Fynydd y Betws, Sir Gaerfyrddin rhwng yr 8fed a’r 10fed o Fehefin. Eto, gellir gwersylla a dod i adnabod y mynydd (cyn i’r Barwniaid Melinau Gwynt rheibus osod eu melinau ar y tir treftadol holl bwysig yma.  Maent wedi cychwyn ar y gwaith yn barod!)

 Ar wahân i’r cyfle i gerdded a gwersylla, cynhelir y prif weithgareddau ar ddydd Sadwrn y 9fed o Fehefin lle cynhelir dau weithgaredd gwahanol yn ystod y dydd - fel a ganlyn:


*2 -3pm. Ymgynulliad ‘anwleidyddol’ ger y ‘pwynt trig’ ar Fynydd y Betws (mae’n eithaf agos i’r ffordd) Platform fydd yr achlysur yma ar gyfer ‘Ymgyrchwyr Gwrth - Melinau Gwynt’ yn bennaf.

 Wedi’r areithiau ger y ‘pwynt trig, cerddir heibio ffensys ffin ogleddol Gweithle’r Fferm Wynt nes cyrraedd y groesffordd wrth droed Penlle’r Gaer. Bydd ‘Croes Ysbryd Cofiwn’ wedi ei gosod yma’n flaen llaw, a gellir gosod teyrngedau o flodau ger y groes er cof am y Cymry a frwydrodd hyd angau wrth amddiffyn Mynydd y Betws neu, ‘Stryveland’ fel bu i’r mynydd gael ei enwi yn y cyfnod 1282 - 1334.

 Yn ogystal - ac ar yr un pryd:

 2-3pm. Cynhelir Rali Gwleidyddol - Gwladgarol “Rali Achub Stryveland’ ar y groesffordd wrth droed Penlle’r Gaer. Rali ‘bocs sebon’ fydd hon gyda’r cyfle i unrhyw wladgarwr godi ar ei draed i ‘ddweud ei ddweud’.


Baricêd y Betws.

 Dilynir yr areithiau yma gyda gorymdaith i ddilyniant ‘miwsig bras’ i fynedfa Gweithle’r Melinau Gwynt ar gyfer cynnal ‘Baricêd y Betws’. Gofynnir i gerddorion sy’n bwriadu mynychu ddod ac unrhyw offeryn sydd yn eich meddiant…drwm, cyrn gwlad, pibellau, ffliwt neu, dim ond eich llais hyd yn oed, i gyfrannu i’r ‘miwsig bras’ wrth orymdeithio i’r baricêd.

Gweithred symbolaidd fydd y baricêd ac yma ceir areithiau ffurfiol gan gynrychiolwyr rhai o’r Cymdeithasau a Mudiadau Gwladgarol fydd yno’n cymryd rhan.

 Ffens Anfodlonrwydd
 Dilynir ‘Baricêd y Betws’ â gorymdaith fer o gwmpas ffensys deheuol y Gweithle ac i safle ‘pwynt y trig’.

 Ynglŷn â’r Rhaglen Uchod
 Gosodwyd llu o wybodaeth parthed lle yn union mae’r safleoedd a nodir uchod - a sut i’w cyrraedd ar y blog ‘Cymru’n Codi’  a gellir cael hyd i amrywiaeth o ffilmiau gyda mwy o wybodaeth ar YouTube.

 Diweddglo

 Gofynnir i pawb ddod a baneri a phlacardiau addas ar gyfer y brotest a’r baricêd ynghyd a baneri a rubanau du a/neu croesau wedi eu gwneud o bren ac wedi eu peintio’n goch a melyn i osod ar y ffensys - er cof am y Cymry a frwydrodd hyd angau ar Fynydd y Betws wrth iddynt wrthsefyll gorthrwm yr Eingl - Normaniaid yn eu herbyn wedi 1282 wrth iddyn nhw fynd ati i feddiannu’r tir. Ond, fe frwydrodd y Cymry’n ôl yn erbyn pob caledi ac anhawster ac “enillwyd y tir yn ôl” gyda dymchwel castell Pentre’r Gaer yn 1334!

Siân Ifan
Ar ran ‘Ymgyrch Cymryd y Tir yn Ôl’