Saturday 30 March 2013

BANERI GLYNDWR - CENEDL GLYNDWR.




BANERI GLYNDŴR…CHWIFIWCH NHW YN UCHEL…DEWCH I NI GYCHWYN RŴAN ER MWYN SICRHAU BOD CYMRU - CENEDL GLYNDŴR DAN FLANCED O FANERI GLYNDŴR YN 2015.

Heb unrhyw amheuaeth, pan ddaw'r flwyddyn 2015 (sy’n llai na dwy flynedd i ffwrdd) mi fydd y ‘Brits  ICH DIENERS’ Cymreig a Chymraeg yn mynd dros ben llestri wrth ddathlu 600mlwyddiant buddugoliaeth y Saeson ar faes y gad ym Mrwydr Agincourt yn 1415 - a heb amheuaeth ac yn gyfleus iawn, anghofir am ‘drosedd rhyfel’ y Saeson wrth iddynt lofruddio carcharorion Ffrengig diarfog, ac anghofir yn ogystal, bod llawer o gefnogwyr Owain Glyndŵr wedi bod yn ymladd ar yr ochr Ffengig yn y frwydr yma wedi iddynt orfod gadael Cymru, a bod llawer, fel Henri Gwyn a’i feibion, wedi eu lladd yn Azincourt yn ymladd yr hen elyn, yn hytrach na ‘gwerthu allan’. 

Manteisir ar yr achlysur yn 2015 i lwytho llwyaid enfawr  arall o hanes Tuduraidd a Phrydeinig i lawr ein gyddfau - a’r cyfan i  gefndir o fôr o faneri San Siôr mae’n siŵr. Unwaith eto, bydd y ‘spin’ Shakespiaraidd yn llenwi ein theatrau ac ysgolion gyda llwyfannu dramâu fel Henry IV a Henry V sy’n bychanu Owain Glyndŵr fel rhyw ‘dwpsyn ofergoelus’ tra’n clodfori’r Tuduriaid ac Undod Prydeinig hyd syrffed!

Oes rhaid dioddef yr uchod yn hollol ddiymadferth? NAGOES!  Yn hytrach, gellir mynegi’n glir yn 2015 nad yw pob Cymro a Chymraes yn daeog i’r Drefn Brydeinig. Gellir dangos fod yna ddigon o wladgarwyr yn bodoli yng Nghenedl Glyndŵr o hyd na wnaiff byth werthu allan - a gellir dangos ein teyrngarwch i Glyndŵr ac i genedl Glyndŵr ac i’w ddyhead am Gymru Rydd Annibynnol drwy sicrhau fod Cymru - Cenedl Glyndŵr wedi ei gorchuddio a baner ein harwr mwyaf oll yn 2015. Bydd gwneud hyn yn ddim i’w gymharu â’r aberth a wnaed gan gefnogwyr Glyndŵr yn ei gyfnod ond bydd y weithred symbolaidd syml yma yn ddatganiad pendant fod brwydr Glyndŵr yn parhau drwy Gymru benbaladr hyd at fuddugoliaeth.

Erfyniodd Llysgenhadaeth Glyndŵr yn y flwyddyn 2000 (ar achlysur 600mlwyddiant dathlu cychwyn Rhyfel Mawr Owain Glyndŵr am Annibyniaeth) ac eto yn y flwyddyn 2004 ( Blwyddyn dathlu 600mlwyddiant Coroni Glyndŵr) ar i bob Cymro a Chymraes gwlatgarol gyfrannu i’r dathliadau drwy orchuddio Cymru mewn blanced o faneri Glyndŵr; gwnaed yr ymdrech gan lawer ond, ysywaeth, ddim gan ddigon o bell fordd. Faint o ymdrech mae’n ei gymryd o ddifrif i godi baner ar bolyn neu, hyd yn oed, i chwifio un allan drwy’r ffenestr? Beth yw’r pwynt sôn am ‘Annibyniaeth i Gymru’ a gweiddi ‘Cymru Rydd’ wrth godi dyrnau i’r awyr os na ellir cytuno i uno fel cenedl o wladgarwyr  i wneud y mymryn lleiaf fel sicrhau bod baner Glyndŵr yn gorchuddio ein cenedl erbyn dyfodiad 2015, fel modd o ddatgan i Loegr na wnawn byth ildio ein cenedl. Dyma weithred hollol syml a all arwain at ddeffroad gwladgarol yng Nghymru - ond i bawb wneud yr ymdrech lleiaf.

Mae’r cyfrifoldeb dros sicrhau dyfodol ein cenedl fel Cymru Rydd annibynnol yn ein dwylo ni i gyd fel cenedlaetholwyr a gwladgarwyr Cymreig felly, dewch i ni gyd gydweithredu i danio’r fflam. Does dim cyfiawnhad dros laesu dwylo a gadael yr ymgyrchu i’r lleiafrif drwy’r amser. Os na ellir cyflawni’r weithred leiaf un yma fel modd o ddangos her erbyn 2015, yna waeth i ni gyd roi’r gorau i  freuddwydio a rhoi’r ffidil yn y to. Gallaf yn bersonol feddwl am gant a mil o bethau diddorol a phleserus i’w gwneud â gweddill fy mywyd os yw’r frwydr drosodd -  a dyna yn union fyddai yn ei wneud os na welaf her ‘go iawn’ i’r drefn Brydeinig yn cael ei fynegi erbyn 2015.

Os nad oes baner Glyndŵr gennych, gellir prynu un maint 3’ x 5’ mewn unrhyw siop Gymraeg gwerth ei halen neu, os ydych am gael gafael ar faner enfawr 5’ x 8’ i ddangos eich her i Loegr yn hen ddigon clir, fe allaf archebu cyflenwad o rain ond, bydd yn rhaid i’r sawl sydd am gael un, yrru archeb bendant gyda siec am £15 (sy’n cynnwys pris cludiant) yn daladwy i fi, Siân Ifan, 34, Bethesda Court, Ffordd Tywysog Cymru, Abertawe SA1 2EY. Yn ogystal, gellir cysylltu â fi ar e-bost yn s.ifan@ntlworld.com   os oes angen mwy o wybodaeth.

Byddai’n wych gweld y baneri enfawr yma ar hyd a lled Cymru ond dwi ond yn barod i archebu os oes digon yn archebu ac yn gyrru taliad gyda'r archeb. Dewch i ni gyd gydweithredu yn yr ymgyrch yma – ac o ddifrif y tro yma.

Siân Ifan