BRWYDRAU CYMRYD Y
TIR YN ÔL!
Gweler yn y ddolen gyswllt: http://www.youtube.com/watch?v=NUHuVWUAz7Q&feature=youtu.be
Gan fod ein cenedl yn prysur gael ei rheibio unwaith
eto, y tro yma gan Feistri Melinau Gwynt cyfalafol ysglyfaethus, mae’r blog ‘Cymru’n Codi’, fel rhan
o’r ymgyrch ‘Cymryd Ein Tir Yn Ôl’, wrthi’n hyrwyddo gweithgaredd
o’r enw ‘Gorymdeithio i’r Mynyddoedd’
sydd i gymryd lle yn ystod wythnos gyntaf (1 - 7) mis Mehefin eleni. Anogir
unigolion a theuluoedd mewn cymunedau
drwy Gymru benbaladr i gerdded a gwersylla yn y mynyddoedd ar diroedd sydd wedi
eu meddiannu gan Coron Lloegr, a barwniaid rheibus eraill, yn ogystal ag ar
diroedd a adnabyddir fel Tiroedd Comin. Pam? Oherwydd bwriedir gosod cannoedd
o’r melinau gwynt mwyaf a dianghenraid a’r tiroedd o’r math yng Nghymru yn
ystod y blynyddoedd sydd i ddod, a
bwriedir i’r gweithgareddau a anogir fel ‘gweithgareddau cymunedol ar gyfer wythnos gyntaf mis Mehefin fod yn
lansiad ar gyfer ‘Ymgyrch Cenedlaethol’ i ‘Gymryd y Tir yn ôl’.
Dilynir y gweithgareddau cymunedol
yma gydag achlysur cenedlaethol sef “Meddiannu’r
Mynyddoedd” a fydd yn cymryd lle ar Fynydd y Betws, Sir Gaerfyrddin
rhwng yr 8fed a’r 10fed o Fehefin. Eto, gellir gwersylla a dod i adnabod
y mynydd (cyn i’r Barwniaid Melinau Gwynt rheibus osod eu melinau ar y tir
treftadol holl bwysig yma. Maent wedi
cychwyn ar y gwaith yn barod!)
Ar wahân i’r cyfle i gerdded a gwersylla, cynhelir y
prif weithgareddau ar ddydd Sadwrn y 9fed o Fehefin lle cynhelir dau
weithgaredd gwahanol yn ystod y dydd - fel a ganlyn:
*2 -3pm. Ymgynulliad
‘anwleidyddol’ ger y ‘pwynt trig’ ar Fynydd y Betws (mae’n eithaf agos
i’r ffordd) Platform fydd yr achlysur yma ar gyfer ‘Ymgyrchwyr Gwrth - Melinau
Gwynt’ yn bennaf.
Wedi’r areithiau ger y ‘pwynt trig, cerddir heibio
ffensys ffin ogleddol Gweithle’r Fferm Wynt nes cyrraedd y groesffordd wrth
droed Penlle’r Gaer. Bydd ‘Croes Ysbryd
Cofiwn’ wedi ei gosod yma’n flaen llaw, a gellir gosod teyrngedau o
flodau ger y groes er cof am y Cymry a frwydrodd hyd angau wrth amddiffyn
Mynydd y Betws neu, ‘Stryveland’
fel bu i’r mynydd gael ei enwi yn y cyfnod 1282 - 1334.
Yn ogystal - ac ar yr
un pryd:
2-3pm. Cynhelir Rali Gwleidyddol - Gwladgarol “Rali Achub Stryveland’ ar y groesffordd
wrth droed Penlle’r Gaer. Rali ‘bocs sebon’ fydd hon gyda’r cyfle i unrhyw
wladgarwr godi ar ei draed i ‘ddweud ei ddweud’.
Baricêd y Betws.
Dilynir yr
areithiau yma gyda gorymdaith i ddilyniant ‘miwsig bras’ i fynedfa Gweithle’r
Melinau Gwynt ar gyfer cynnal ‘Baricêd
y Betws’. Gofynnir i gerddorion sy’n bwriadu mynychu ddod ac unrhyw
offeryn sydd yn eich meddiant…drwm, cyrn gwlad, pibellau, ffliwt neu, dim ond
eich llais hyd yn oed, i gyfrannu i’r ‘miwsig bras’ wrth orymdeithio i’r
baricêd.
Gweithred symbolaidd fydd y baricêd ac yma ceir
areithiau ffurfiol gan gynrychiolwyr rhai o’r Cymdeithasau a Mudiadau
Gwladgarol fydd yno’n cymryd rhan.
Ffens Anfodlonrwydd
Dilynir ‘Baricêd y Betws’ â gorymdaith fer o gwmpas
ffensys deheuol y Gweithle ac i safle ‘pwynt y trig’.
Ynglŷn â’r
Rhaglen Uchod
Gosodwyd llu o wybodaeth parthed lle yn union mae’r
safleoedd a nodir uchod - a sut i’w cyrraedd ar y blog ‘Cymru’n Codi’ a gellir cael hyd i amrywiaeth o ffilmiau gyda
mwy o wybodaeth ar YouTube.
Diweddglo
Gofynnir i pawb ddod a baneri a phlacardiau addas ar
gyfer y brotest a’r baricêd ynghyd a baneri a rubanau du a/neu croesau wedi eu
gwneud o bren ac wedi eu peintio’n goch a melyn i osod ar y ffensys - er cof am
y Cymry a frwydrodd hyd angau ar Fynydd y Betws wrth iddynt wrthsefyll gorthrwm
yr Eingl - Normaniaid yn eu herbyn wedi 1282 wrth iddyn nhw fynd ati i
feddiannu’r tir. Ond, fe frwydrodd y Cymry’n ôl yn erbyn pob caledi ac
anhawster ac “enillwyd y tir yn ôl” gyda dymchwel castell Pentre’r Gaer yn
1334!
Siân Ifan
Ar ran ‘Ymgyrch Cymryd y Tir yn Ôl’