Annwyl pawb,
Gweler dolen gyswllt i’r fersiwn Cymraeg o ffilm fer dwi newydd gynhyrchu ar gyfer YouTube.
Yn ogystal, diolch i’r ffyddloniaid sydd wedi arwyddo’r ddwy ddeiseb ‘ar lein’ ar safle gwe’r Cynulliad Cymreig, y cyntaf i geisio a pherswadio’r Cynulliad y dylid prynu a gwarchod ‘Hen Senedd-Dŷ Dolgellau’ ar gyfer y genedl, a’r ail i geisio a pherswadio’r Cynulliad i enwi’r A470 yn Briffordd Tywysog Owain Glyndŵr cyn i’r ffordd gael ei enwi’n ‘The Royal Welsh Way’, ‘Prince William Way’ neu ryw enw ‘hurt’ arall. Gweler isod y dolennau cyswllt ar gyfer y ddwy ddeiseb eto ac, fel arfer, byddwn yn ddiolchgar dros ben petaech yn gyrru’r neges yma’n mlaen yn ei gyfanrwydd ond yn arbennig, gan fod angen ysgogi mwy i arwyddo’r deisebau.
Yn enw’r Tad, byddech ddim yn gwneud hynny er budd Llysgenhadaeth Glyndŵr. Fydda i na’r Llysgenhadaeth ddim yn elwa mewn unrhyw ffordd am fy nhrafferth. Byddech yn arwyddo’r ddeiseb er cof am ymgyrch ac aberth Owain Glyndŵr a’i gyfoeswyr ac er budd Cymru heddiw a Chymru’r dyfodol. Os ydym o ddifrif am ennill annibyniaeth i Gymru, dewch i ni ddangos hynny drwy, o leiaf, sefyll yn un corff tu cefn i’r deisebau yma fel modd o ddangos parch i’r dyn a aberthodd y cyfan ac a wnaeth, drwy hynny, sicrhau bod y dyhead am annibyniaeth yn fyw yng Nghymru o hyd.
Arwyddwch:
a
Dros Glyndŵr a’i gyfoeswyr a Chymru’r gorffennol, presenol a’r dyfodol…diolch.
Siân