Copi o lythyr a gyhoeddwyd yn rhifyn yr wythnos a fu o'r Cymro. Mae cyfeithiad Saesneg ar y blog Tarian Glyndŵr. Dyma'r ddolen gyswllt: http://tarianglyndwr.blogspot.com/
Annwyl Olygydd,
Mae’r gwirionedd bellach yn gwawrio ar wledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd fod dibyniaeth ar ynni gwynt fel ymateb i anghenion ynni’r dyfodol yr un mor wirion a di-nod a cheisio a llenwi bwced a thwll anferth yn ei waelod. Mae’r iseldiroedd eisoes wedi cefnu ar eu strategaeth i ddatblygu ffermydd gwynt ac mae Ffrainc, ar hyn o bryd y edrych i’r un cyfeiriad - gydag UNESCO yn gwylio a llygaid barcud oherwydd eu bod yn pryderu am safleoedd treftadol a hanesyddol Ffrainc. Ond lle mae ein cenedl fach ni yn y cwestiwn, mae San Steffan wedi datgan eu hawl i osod ffermydd ar bob un acer o dir Cymru os ydynt am wneud hynny, ta waeth beth yw nodweddion hanesyddol, diwylliannol neu amgylcheddol y darn o dir hynny ac oherwydd, cawn flynyddoedd o’n blaenaf o orfod dioddef cannoedd os nad miloedd o’r angenfilod enfawr yma yn llenwi ffyrdd ein trefi a phentrefi wrth iddyn nhw gael eu cludo i mewn ac ar hyd a lled Cymru cyn cael eu trywanu i mewn i’r ddaear yn eu cartrefi newydd. Bydd dim diweddglo i’r hunllef yna nes bod pob rhan o dir agored wedi ei rhwygo i fynnu ac wedi ei lenwi a’r angenfilod enfawr, ac yna, disgwylir i ni fyw yn eu mysg - a phwy yn eu llawn synnwyr fyddai am wneud hynny - heb son am ddod ar ymweliad i weld ein mamwlad a oedd, cyn y rheibio diweddaraf yma, yn hyfryd o hyd er gwaethaf rheibiau’r gorffennol.
Os caniateir â’r strategaeth ‘hurt’ yma yng Nghymru, mewn amser, fydd yna ddim cymunedau Cymreig bywiog ar ôl; pwy fydda am fyw ynddyn nhw? Fydd yna ddim sŵn plant yn chwarae ac yn chwerthin yn iardiau’r ysgolion gwag a dim adar (ar wahân i rai heb bennau!) yn canu a fawr o fywyd gwyllt. Y cyfan fydd gan ‘Croeso Cymru’ i gynnig fel atyniadau ar eu taflenni hyrwyddo fydd cestyll, cronfeydd dŵr, cannoedd o felinau gwynt a pheilonau di-ri.
Ydi, mae’r darlun ar gyfer y dyfodol yn un brawychus a thrist - ac yn un y gellid ei hosgoi o hyd petai’r Cynulliad ym Mae Caerdydd a ddigon o asgwrn cefn i ddweud NA!...DIGON YW DIGON - yn arbennig o ystyried fod hyd yn oed San Steffan erbyn hyn yn gorfod cydnabod y ffaith fod ynni gwynt yn hollol anrhagweladwy ac felly’n aneffeithiol gyda’r cymorthdaliadau sy’n cael eu talu i’r datblygwyr yn werth llawer mwy na’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu - ac, fel petai hynny ddim yn ddigon, y diweddaraf yw bod San Steffan wrthi’n ystyried cyngor eu hadran Ynni eu hunain bod rhaid gwario £60biliwn i adeiladu dwy ar bymtheg o orsafoedd pŵer fydd yn rhedeg ar nwy! Bwriedir i’r gorsafoedd ynni yma fod yn segur rhan fwyaf o’r amser ond i fod yno yn gefn i’r melinau gwynt pan nad yw'r rheini yn troi ac/neu ddim yn cynhyrchu’r trydan sydd ei angen! Pa fath o wallgofrwydd yw hynna? Ni’r trethdalwyr fydd, wrth gwrs, yn gorfod talu am y gorsafoedd ynni newydd yma er inni fod yn talu’n barod am y melinau gwynt mewn taliad cuddiedig ar ein biliau ynni.
Y peth mwyaf trist am hyn i gyd parthed Cymru yw bod Cymro, cyn aelod gweithgar o Gymdeithas yr Iaith, wedi dod i’r amlwg fel ‘Datblygwr’ sy’n chwarae rôl flaengar iawn yn yr erchylltra diweddaraf yma i ddinistrio ein mamwlad. Eryl Vughan (Fychan gynt) yw’r wyneb Cymraeg i ddatblygu’r ffermydd gwynt aflan ‘ma’ ar hyd a lled Cymru ac, heb amheuaeth, mae ef yn gwybod yn iawn pa mor aneffeithiol ydynt o ddifrif a pa effaith maent yn mynd i gael ar Gymru’r dyfodol ond mae’r elw enfawr sydd i’w wneud o werthiant y melinau gwynt yn y lle cyntaf ac yna o’r cymorthdaliadau llifogus yn fwy na digon i leddfu cydwybod Eryl mae’n amlwg! Ond, fel petai’r fradwriaeth amlwg o reibio ei famwlad â’r ffermydd gwynt ‘ma’ ddim yn ddigon trist, mae Eryl, yn ogystal, wrthi’n brysur yn twyllo ac yn llwgrwobrwyo sefydliadau Cymraeg fel yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Urdd a’r Mudiad Ysgolion Meithrin i dderbyn brathiad o’i afal gwenwynig mewn ffurf nawdd er mwyn ennill cefnogaeth y Cymry Cymraeg ledled Cymru ar gyfer yr adegau hynny pryd fydd rhaid i’w gwmni, ‘Ynni Gwynt Cymru’, cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer y melinau gwynt di-ri mae ef am drywanu i mewn i ddaear ei famwlad.
Mae’n hynod o eironig a thrist fod sefydliadau sy’n bodoli i warchod Cymru, ei diwylliant a’i hiaith eisoes wedi eu twyllo a’u llwgrwobrwyo i dderbyn brathiad o’r afal gwenwynig sy’n cael ei gynnig iddynt gan Eryl Vaughan, ac oherwydd, byddant, mewn amser, yn cyfrannu tuag at ddinistr yr elfennau o Gymreictod maent ers degawdau wedi gwarchod. Dewch i ni obeithio na fydd yna fwy o sefydliadau a mudiadau Cymreig yn cael eu twyllo yn yr un modd ac na welir y sefydliadau a enwyd yn cnoi ar yr afal fyth eto yn y dyfodol .
Siân Ifan
This blog is meant to unite all that believe in the just cause of Owain Glyndŵr, Owain IV, our past, present and future 'Tywysog Cymru' and for all who are committed to battling on for the restoration of Cenedl Glyndŵr - Cenedl Cymru Rydd and a Senedd Glyndŵr that will truly have the welfare of all the Cymry at heart.
Sunday, 3 July 2011
Sunday, 26 June 2011
IMPORTANT NEWS: STOP TAN 8 FULL STOP - POBL GLYNDWR ASSEMBLE WITH POBL POWYS AT WELSHPOOL LIVE STOCK MARKET 29 MEHEFIN 2011 - TAKE BANERI GLYNDWR.
CENEDL GLYNDWR
- 12 visits - 16 May25 Jun 2011 – Today, this 'Cenedl Glyndŵr' is our nation of commemoration of the life, times and society of our national hero. ...
cenedl.blogspot.com/ - Cached
cenedl.blogspot.com/ - Cached
TARIAN GLYNDŴR
- 7 visits - 13:3225 Jun 2011 – Mudiad Tarian Glyndŵr campaigns against oppression of our people and expropriation of our land and its natuural resources. ...
tarianglyndwr.blogspot.com/ - Cached
tarianglyndwr.blogspot.com/ - Cached
Owain Glyndwr Communicates.
- 53 visits - 17 JunFriday, 17 June 2011
CARWYN DOES A U TURN ON WINDMILLS - REALLY? BELIEVE THIS AND YOU WILL BELIEVE LABOUR IS GOING TO OPEN COAL MINES AGAIN INSTEAD OF THE CONTINUED WINDMILLING OF WALES AS AN ECO COLONY OF GLOBAL GREEN IMPERIALISM.
Interesting at beginning of Week Carwyn was going to unviel a plaque at the revamped and reopening Canolfan Glyndwr in Machynlleth on Saturday but hearing of planned protest, he backed out. In his place Alun Davies Labour A.M. was being sent but, still protest was to go on with this time around major Nationalist backing for the Powys Against Pylons protest. This was about to become the Treweryn Issue that Glyn Davies Conservative M.P. had forecast it would, suprise! suprise! today Carwyn's apparent U Turn on Windmills but there's a sub text and that is, guess what? It's all down to the U.K. Government now, so which way will this go? Of course, the Tories could now really put Carwyn on the spot but early days, the main thing is don't give up the protest pressure and make sure Alun Davies Labour A.M. gets the right on message to take back to his master, no tricks Carwyn or your Labour Assembly will end up tumbling down like a pack of cards on shifting sand.
Owain Glyndwr Communicates.
owain-glyndwr-embassyllysgenhadaeth.blogspot.com/
Owain Glyndwr Communicates. Promoting an interest in the history of Owain Glyndwr, the Welsh Son of Prophecy, his life, times and society and his great
The long battle to get Glyndwr centre reopened ... - Cambrian News
www.cambrian-news.co.uk › Lifestyle
Cambrian News Ltd 7 Aberystwyth Science Park, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3AH ... The long battle to get Glyndwr centre reopened. 15 June 2011 ...
Windfarms - no thanks
- 20:55www.warmwell.com/windfarms.html
Wind turbines are designed to last about 25 years, after which they must be dismantled. ...Carwyn Jones, remember you are First Minister for the whole of Wales. ... "....four energy companies were paid to switch off turbines on 16 ...
GWERIN OWAIN - OWAIN'S FOLK.
gwerinowain.blogspot.com/
1 Jun 2011 ... GWERIN OWAIN - OWAIN'S FOLK. In Tribute and Remembrance of the Post 1282/3/4 Conquest 'Colonial Underclass', many of whom continued Welsh ...
TARIAN GLYNDŴR
- 6 visits - 31 Maytarianglyndwr.blogspot.com/
30 May 2011 ... Mudiad Tarian Glyndŵr campaigns against oppression of our people and expropriation of our land and its natuural resources. ...
BRWYDRAU GLYNDWR
- 2 visits - 12/01/2009brwydrauglyndwr.blogspot.com/
1 Jun 2011 ... BRWYDRAU GLYNDWR. Material associated with the Military History of the Last Great War of Welsh Independence 1400 - 1416 - 1422. ...
Thursday, 16 June 2011
SOVEREIGNTY PROCESSION MACHYNLLETH 11 am - 12 Noon SATURDAY 18 MEHEFIN 2011: Letter By Sian Ifan CEO Embassy Glyndwr Published In Western Mail. PLUS EVENT FINAL INFO.
SIR - Some of your readers may wish to know that the annual Machynlleth "Crowning of Glyndwr Festival" is to take place this Saturday, June 18. The festival will, for the fifth successive year, commence with a "Displaying of the Glyndwr Crown Parade" which will leave from the war memorial (by Moma) at 11am sharp.
We, at Embassy Glyndwr, believe the Glyndwr Crown to be the most potent symbol of "sovereignty" that Wales has possessed since the establishment of Owain Glyndwr's Welsh Parliament at Machynlleth in 1404. We also believe that the annual parade to display our "sovereignty as still being well and truly intact", to be more important than ever this year following the despicable "pomp and pageantry" display at the official opening of the 4th Welsh Assembly recently with prominent "so called" Cymry drooling in their eagerness to "roll over" for the English Monarchy present! And, if that in itself was not enough, we had to witness Dafydd Elis-Thomas proudly declaring in media interviews that we are, after all, strongly tied to and part of the UK!
Was he talking on behalf of your readers, do they agree with him? If not, then I would suggest that they come to Machynlleth to parade with the Glyndwr Crown, the symbol of the "Sovereignty" of our nation and stand with us, united, by the Owain Glyndwr memorial on the green at Y Plas, Machynlleth to state, loudly and clearly, that they do not consider themselves to be a citizen of the UK but, rather, Cymric citizens of Cenedl Glyndwe r.
SIAN IFAN CEO Embassy Cenedl Glyndwr
Thank to alanindyfed for publicising so well the fourth coming Gwyl Glyndwr in Machynlleth this Saturday.
Independence Cymru: Prince Owain Glyndwr Ceremony Programme
alanindyfed.blogspot.com/.../prince-owain-glyndwr-ceremony-programme.html 14 Jun 2010 ... Independence Cymru. "The Nineteenth century saw a great Springtime of ...Just contact John (one of the festival organisers) on 07703503829 ...Independence Cymru: Commemorating a Dead Hero and National Tywysog
alanindyfed.blogspot.com/.../commemorating-dead-hero-and-national.html11 Jun 2010 ... Independence Cymru. "The Nineteenth century saw a great .... as the premier National Glyndŵr festival around and about the 21st June mid ...Final Publicity Memo:
11:00 am Procession Assembles at War Memorial.
11:30 am Crown Handed To Mayor at Cofeb Glyndwr, Y Plas.
12: Noon Juratus Oweyn Ceremony at Parliament Green.
THE FESTIVAL FOR MOST PART TAKES PLACE ON PARLIAMENT GREEN THROUGH THE AFTERNOON ALSO CANOLFAN OWAIN GLYNDWR RELAUNCH INDOORS WITH ALUN DAVIES LABOUR A.M.
As from 1:00 pm Open Soap Box - Welsh Nation 'Speakers Corner' at Cofeb Glyndwr, Y Plas - a rolling through the Afternoon Discussions and Debates on a veriaty of subjects. all welcome to stand on a Soap Box and Speak out and engage others in issues of the times concerning National Struggle.
2:00 pm Powys Against Pylons Rally at the Clock followed by march to Senedd Glyndwr (Canolfan Glyndwr) to Lobby Alun Davies A.M. to oppose the National Grid Plans for Montgomery.
If Medieval Reenactors Folk Musicians and Dancers turn up as requested, then there could be various entertaining activities around the town - We Shall See?
Other Interesting Associated Material:
Owain Glyndwr Communicates.: Have Welsh Nationalists Learnt Any ...
owain-glyndwr-embassyllysgenhadaeth.blogspot.com/.../whither-independence-again-we-have-been.html 23 May 2007 ... Other than that, remember our call to annually hold a ''Soap Box Nation'' -Cymanfuoedd - Gathering around the 'Cofeb Glyndwr' in the ...
Owain Glyndwr Communicates.: 21 Mehefin 1404: The Annual 'Dydd y ...
owain-glyndwr-embassyllysgenhadaeth.blogspot.com/.../21-mehefin-1404-dydd-y-senedddydd-y.html 1 Jun 2007 ... Whatever, discuss and debate at your possible annual 'Cymanfuoedd Glyndŵr' . . Possible Programme, but do remember, we are not organising, ...
Owain Glyndwr Communicates.: June 2007
owain-glyndwr-embassyllysgenhadaeth.blogspot.com/2007_06_01_archive.html Whatever, discuss and debate at your possible annual 'Cymanfuoedd Glyndŵr' . . Possible Programme, but do remember, we are not organising, you just turn up ...
Friday, 27 May 2011
Mae pobl Trefaldwyn wedi cychwyn y brwydro ond ble mae'r gweddill o Gymru arni?
1500 o Bobl Trefaldwyn a'u cefnogwyr o rannau eraill o Gymru (yn cynnwys llond dyrniad bach o Bobl Glyndŵr) yn protestio o flaen adeilad y Cynulliad Cymreig dydd Mawrth diwethaf (Mai 24) mewn gwrthwynebiad i bolisi TAN 8 (melinau Gwynt) y sefydliad hwnnw.
Daeth cnewyllyn bychan o Aelodau’r Cynulliad allan i gyfarfod y protestwyr ac roedd pob un ohonynt, yn ystod eu hareithiau yn cyfaddef nad oeddent wedi gweld protest mor enfawr o flaen ddrysau’r Cynulliad o’r blaen. Yn ogystal, bu i bob un ohonynt gyfaddef nad oedd TAN 8 yn gweithio ac addo i geisio a 'thrawsnewid' y polisi ‘gwallgof’ ond, y gwir amdani yw bod rhaid cael gwared â’r polisi i osod y Ffermydd Gwynt aneffeithiol ac aneconomaidd yma ar dir Cymru unwaith ac am byth! Yr unig rai sy’n elwa yw’r cyfalafwyr sy’n eu cynhyrchu, y perchnogion tir sy’n gwerthu tir ar eu cyfer, ychydig o weithwyr sy’n cael gwaith ‘dros dro’ i osod yr angenfilod yn eu lle, a Lloegr - a fydd yn derbyn y mwyafrif o’r trydan a gynhyrchir!
Mae’r ffermydd gwynt ma’n lledaenu fel feirws ar hyd a lled Cymru ac fel petai hynny ddim yn ddigon, mae’n ofynnol i adeiladu is-orsaf ynni ar hyd a lled 20 o erwau o ‘fwynder Maldwyn’ ynghyd a byddin o beilonau 50 medr o uchder a fydd yn cysylltu 800 o felinau gwynt drwy 100 milltir o raffau cebl i’r grid ‘cenedlaethol’ h.y. ‘cenedlaethol’ yn ystyr ‘Lloegr’ ‘o genedlaethol’!
Unwaith eto. Mae tiriogaeth Cymru’n cael ei rheibio o dan ein trwynau a hynny gyda chydweithrediad llawn ein cynghorau lleol a’r gwleidyddion ym Mae Caerdydd. Mae’r ‘gwallgofrwydd’ diweddara’ ma i gymryd lle ar dir sy’n rhan o diroedd etifeddol Tywysog Owain Glyndŵr. Ar y diriogaeth yma mae olion Llys Mathrafal, sef Llys brenhinol tywysogion Powys ac, yn ogystal, ar y tir yma mae Rhyd Chwima, lle gorfodwyd Harri’r III i gydnabod Llywelyn III yn Dywysog ar Gymru ar Fedi 29, 1265. Sut all ein cynghorwyr a gwleidyddion etholedig fod mor haerllug ac amharchus o’n etifeddiaeth i allu cyd-fynd a chynllun a all ond dinistrio’r diriogaeth hanesyddol ôll-bwysig yma’n llwyr! Fy nghyngor i yw i wladgarwyr Cymreig gofio am y fradwriaeth yma pan ddaw'r etholiadau nesaf. Peidiwch â phleidleisio i’r cynghorwyr a gwleidyddion hynny sy’n gwrthod a disgyn ar eu bai ac sy’n mynnu cario’n flaen a’r cynllun neu ‘gynllwyn’ yma ta waeth i ba blaid maen nhw’n perthyn!
Roedd y brotest fawr ddydd Mawrth yn ‘ysgytwad’ i aelodau’r Cynulliad heb os, ac mae gennym ddigonedd o resymau fel cenedl i fynd yno (ac at ddrysau’r Cynghorau Sir) dro ar ôl tro i brotestio a mynnu cyfiawnder i’n pobl a’n cymunedau ond, os ydym yn mynd i wneud hynny yn effeithiol yn yr un modd a wnaed dydd Mawrth, yna mae’r rhaid i ni ddysgu uno’n gadarn fel cenedl du ôl i bob ymgyrch sydd angen ei hymladd. Tyda ni ddim mewn sefyllfa i fod yn ‘blwyfol’ parthed ein hymgyrchoedd a gweithredu yn erbyn un "cynllwyn" tra bod y baricedau i lawr ymhob man arall lle mae'r "cynllwyniau" 'ma'n cymryd lle drwy Gymru.
Cofiwch mai ein cenedl ni’r Cymry yw hi - ac arnom ni mae’r cyfrifoldeb i’w hamddiffyn. Erfyniais yn fy neges ddiwethaf ar i ‘bobl Glyndŵr a gwladgarwyr eraill gymryd ran yn y brotest dydd Mawrth. Dim ond 4 person (6 os ydych yn cyfrif baneri’r Llysgenhadaeth) ddaeth a baneri Glyndŵr i’r brotest - a diolch iddynt am wneud hynny - ac i’r cnewyllyn bach arall daeth i ddweud helo a dangos eu hwynebau - a’u cefnogaeth. Ond ‘rhag cywilydd’ i’r cannoedd o Gymry sy’n byw yng Nghaerdydd ac mewn trefi cyfagos yn y De ac a wnaeth dim ymdrech o gwbl i gefnogi! Yn arbennig gan fod llond 33 bws o ymgyrchwyr wedi teithio am 7 awr i ddod o Ganoldir Cymru! Yn eu plith, y W.I. ond ble oedd Merched y Wawr?
Roedd hyd yn oed cwn Maldwyn yn protestio; ymddengys bod ganddyn nhw mwy o synnwyr cyffredin na'r gwleidyddion!
Siaradodd yr A/S Glyn Davies fel cenedlaetholwr cadarn yn y brotest ac fe addawodd i frwydro ‘hyd yr eithaf’ yn erbyn y ‘cynllyn gwallgof’ - fel gwnaeth Siân Lloyd ac Iolo Williams a ddwedodd iddo fod wedi cael “llond bol” ar y “Senedd o bypedau” ym Mae Caerdydd a’u cynlluniau gwallgof ar gyfer ein cenedl.
Atgoffodd Myfanwy Alexandra’r dorf mai gwlad Glyndŵr oedd o dan fygythiad a byddai hithau hefyd yn ymladd i’r eithaf i’w amddiffyn ond ymhle oedd ei chwaer, Helen Mary Jones - a ble oedd Aelodau Cynulliad eraill Blaid Cymru? Daeth Seimon Thomas allan i dderbyn telpyn o welltwair oddi wrth blant ysgol Meifod ac awgrymu yn ei araith y dylai’r protestwyr fynd i brotestio i’r Cynghorau Lleol yn ogystal ag i’r Senedd-Dŷ yn San Steffan hefyd. Y cynghorau lleol, ia, ond San Steffan? Dwi ddim yn meddwl Seimon, llanastr y Cynulliad Cymreig yw hwn a beth yw’r pwynt o gael mwy o bwerau os nad ellir dileu’r policy abswrd ma! Dylem ddim gorfod mynd ‘gap yn llaw’ i San Steffan am ddim byd byth eto!
Dim ond y cychwyn oedd protest dydd Mawrth, bydd ymgyrchu rŵan nes bydd y polisi o osod ffermydd gwynt a’u his-orsafoedd a’r peilonau enfawr ar hyd a lled Cymru wedi ei ddileu unwaith ac am byth. Dewch i ni, fel gwladgarwyr (Cymraeg a Di-Gymraeg ein hiaith) wneud pob ymdrech sy’n gorfforol bosibl i uno mewn gwrthsafiad yn erbyn y rheibio gwallgof diweddara yma ac yn erbyn pob ‘gwallgofrwydd’ arall sy’n brysur ein dileu fel cenedl.
Dim ond y cychwyn oedd protest dydd Mawrth, bydd ymgyrchu rŵan nes bydd y polisi o osod ffermydd gwynt a’u his-orsafoedd a’r peilonau enfawr ar hyd a lled Cymru wedi ei ddileu unwaith ac am byth. Dewch i ni, fel gwladgarwyr (Cymraeg a Di-Gymraeg ein hiaith) wneud pob ymdrech sy’n gorfforol bosibl i uno mewn gwrthsafiad yn erbyn y rheibio gwallgof diweddara yma ac yn erbyn pob ‘gwallgofrwydd’ arall sy’n brysur ein dileu fel cenedl.
Cyflwynwyd deiseb i'r Cynulliad gyda 13,000 o enwau arni yn gwrthwynebu'r polisi TAN 8 - ac roedd yr enwau yma wedi cael eu casglu mewn mis! Casglwyd 500 yn ychwanegol ar diwrnod y brotest. Dewch i ni rwan ychwanegu mwy a mwy o enwau tuag at y rhestr yma o wrthwynebwyr er mwyn dangos yn glir iawn bod y mwyafrif o bobl Cymru yn gwrthwynebu'r polisi gwallgof! Yna, cychwynwch eich ymgyrchu o ddifrif drwy fynd ati i berswadio eich cynghorwyr lleol a gwleidyddion Cymru bod yn rhaid iddynt ddisgyn ar eu bai ynghyd a hyn ac ymuno'r â'r ymgyrch i gael gwared o'r cynllyn!
Cofiwn Dryweryn…Cofiwn Fyrnwy…Cofiwn Drefaldwyn??? Cofiwn Gymru – Cenedl Glyndŵr???
Gellir cael fersiwn Saesneg o'r adroddiad a'r neges uchod ar...
tarianglyndwr.blogspot.com/
17 Aug 2010 ... Mudiad Tarian Glyndŵr campaigns against oppression of our people and expropriation of our land and its natuural resources. ...
Siân
Monday, 23 May 2011
POBL POWYS WALKING AGAINST WINDFARMS, ELECTRICITY HUBS AND PYLONS TOWARD CARDIFF PROTEST ON TUESDAY 24 MAY 2011 - POBL GLYNDWR BE THERE!.
Pic Below: Shows Pobl Powys with Baner Llywelyn III (in Distress *) and Baner Glyndŵr enroute Sunday from Brecon to Merthyr Tudful. The walkers are greeted by Gethin ap Gruffydd on behalf of Cymdeithas Lewsyn yr Heliwr with the 'Baner 1831' and the 'Red Pitchfork Flag' of the Land and Liberty Campaign. Full photo Feature on line to be posted on the 'Gwerin Owain -Owain's Folk' Blog tomorrow.
* Baner Llywelyn in Distress explained: Baner Llywelyn turned up side down as a sign of distress. Often this can also denote surrender. See Llywelyn III/1282 Memorial at Aberffraw 'Shield bearing Arms of Llywelyn III/Gwynedd turned upside down, patriots are flyning Baner Llywelyn III like this to signfy protest that the English Royal Crown have stolen this flag and stuck the Crown of English Princes of Wales upon it. also see WAG Coat of Arms depicting the 'Arms of Gwynedd' Shild topped by an English Crown, that says it all about them! This idea has been inspired by Hawaiian Patriots who also fly the Hawaiian Flag upside down as an act of protest.
A group of anti wind-farm protestors are now on the fifth day of their walk from Y Trallwng to Caerdydd as part of the campaign to draw public attention to the proposed plan for a 20 acre substation and 100 miles of power cables which will be carried on pylons that will link 800 wind turbines in Trefaldwyn (Montgomery) to the National grid. The main part of the protest walk will end in Caerdydd tonight and then others will join the group in Caerdydd tommorrow morning to walk down to the Welsh Assembly to take part in a major protest rally where 1000's of anti wind turbine protestors are expected to be present.
Embassy Glyndŵr is 100% behind this campaign organised by CUP (Cadwriaeth Ucheldir Powys) for a number of reasons. In the first instance, we are totally fed up of seeing our beautiful motherland being ravaged, time and time again, for political and capitalist gain. We know that these 'monstrosities are heavily subsidised, are unpredictable and therefore ineffective. We certainly have plenty of other alternatives to produce the needed energy for Cymru. This major 'mad plan' is to produce and supply energy for the national grid. Will the Cymric people benefit from it? of course not. If this 'mad' plan goes ahead, a major part of our nation will be ravaged and the people of Trefaldwyn will have to live with 800 of these ugly alian giants as well as with all the pylons and cabling that will link them to the national grid.
We have already witnessed the windmilling of many areas of our nation and this is the latest intended 'madness' that the politicians and their capitalist allies are confident that we, in Cymru, will once again put up with. But hopefully, tommorrow's protest rally in Bae Caerdydd will make them think again as they witness 1000's of people in a 'Wales United Front' hammering on their door shouting "DIM TAN 8 i GYMRU"..."DIM MELYNAU GWYNT...DIM IS-BWERDAI"! ("NO TAN 8 FOR CYMRU"..."NO WINDMILLS...NO SUB-STATIONS"
Those of you who can, please, please, please join the protest in Bae Caerdydd tommorrow morning and then join CUP because this is just the beginning of what's going to be a long campaign. No Cymric patriot (Cymreig or English speaking) could possibly allow such sacrilige to take place without making a stand. So, please, let's have a strong and defiant united stand on this issue.
COFIWCH DRYWERYN...BYTH ETO! ...COFIWCH VYRNWY...BYTH ETO! COFIWCH DREFALDWYN???
Programme for the Protest Tommorrow morning.
11.30 am – Be ready outside the Millennium Centre in Cardiff Bay. Choir singing Calon Lan
Proceed round to the Senedd with the Choir etc
12.00 - Speech – Glyn Davies
Presenting the petitions – please make sure that you have returned any paper copies to the address below by the end of this week.
6 children will carry caskets of turf and present them to each of the AMs, saying “This is part of our uplands; guard it well; this is our heritage; keep it safe.”
The AMs will then either agree and take it,...or not.
Protestors then sings Calon Lan and our National Anthem. Led by the choir
We expect proceedings to be over by 1pm.
CUP has written to John Griffiths, the newly appointed Minister for the Environment and Sustainability, requesting a meeting on the 24th which we hope to have after the representation.
Coach contacts:
Cefn Coch - Menna Watkins/ Judith Huxley 01938 810247
Welshpool / Meifod– Carol Davies – davies.thecrest@virgin.net
Four Crosses and; Arddleen – Cllr. Graham Brown – graham.harris@powys.gov.uk
Abermule, Berriew - Rhiannon – book on facebook - ConservationofUplandPowys
Kerry – Hilary – book on facebook
Tregynon - Geoff & Jo Weller - geoff180@gmail.com
Llanfair Caereinion – Ivernia Watkin – 01938 810019
Newtown - Mike Brennan - mbrennan578@btinternet.com
Knighton & Presteigne – Sarah Myhill - secretary @cupowys.org
Shropshire – Steve Elliot –steve@nopylonsinreavalley.co.uk
Builth Wells – Ann West – annwest@turbinefree.co.uk
Carmarthenshire – Caroline Evans – carolineevans1@yahoo.co.uk
If you want a membership form to join CUP or want any further details about tommorrow, please contact Alison Davies at:
01938 810036; 07834209161
email: chairman@cupowys.org
website: http://www.midwaleswind.co.uk/
ST
--------------------------------------------------------------------------------
ST
--------------------------------------------------------------------------------
Subscribe to:
Posts (Atom)